No themes applied yet
I'r Cyfarwyddwr: ar offerynnau llinynnol. I Ddafydd.
1Clyw fy nghri, O Dduw,
a gwrando ar fy ngweddi;
2o eithaf y ddaear yr wyf yn galw arnat,
pan yw fy nghalon ar suddo.
Arwain fi at graig sy'n uwch na mi;
3oherwydd buost ti'n gysgod imi,
yn dŵr cadarn rhag y gelyn.
4Gad imi aros yn dy babell am byth,
a llochesu dan gysgod dy adenydd.
Sela
5Oherwydd clywaist ti, O Dduw, fy addunedau,
a gwnaethost ddymuniad y rhai sy'n ofni dy enw.
6Estyn ddyddiau lawer at oes y brenin,
a bydded ei flynyddoedd fel cenedlaethau;
7bydded wedi ei orseddu gerbron Duw am byth;
bydded cariad a gwirionedd yn gwylio drosto.
8Felly y canmolaf dy enw byth,
a thalu fy addunedau ddydd ar ôl dydd.
Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig hawlfraint © Cymdeithas y Beibl 2004 © British and Foreign Bible Society 2004